Skip to content

Albym Newydd ‘MAS’
Allan Nawr!

Byth yn un i aros yn llonydd, mae Carwyn Ellis yn parhau â’i daith trwy America Ladin, gan ryddhau ei albwm newydd gyda Rio 18, sef ‘Mas’.

Fel yr albwm flaenorol ‘Joia!’, mae ‘Mas’ yn gasgliad o ganeuon sy’n cael eu canu yn Gymraeg ag iddynt flas canu pop a naws Ladin Americanaidd unigryw sy’n defnyddio arddulliau Bossa Nova, Cumbia, Samba a Tropicalismo, wedi’u recordio yn Rio de Janeiro, Caernarfon a Llundain.

Dyma’r ‘Mas’ ysblennydd yn ymddangos, gan deimlo’n rhyfeddol o briodol ar gyfer yr amseroedd hyn: mae teitl yr albwm yn golygu sawl peth ac mae hynny’n cyd-fynd â’i natur fyd-eang. Yn Gymraeg mae ‘Mas’, wrth gwrs, yn golygu “allan”, yn Sbaeneg yr ystyr yw “mwy” ac mewn Portiwgaleg yr ystyr yw “ond”. Felly, gall y gair byr hwnnw olygu addewid, potensial, ond hefyd rywfaint o rybudd cynnil. Mae yma naws mwy gwleidyddol, ail daith Rio 18 o amgylch y byd, wrth i Carwyn a’i gyfeillion ystyried pynciau mwy sylweddol: boddi pentrefi, newid hinsawdd, mudo a thwf dinasoedd enfawr. Ni chaiff y rhain eu hystyried mewn modd difrifol a dwys, ond mewn caneuon prydferth sy’n codi’r ysbryd. Mae traciau eraill hefyd yn dathlu pleserau a chyffro
cariad, natur a hanfod dynoliaeth.

Mae ‘Mas’ yn gasgliad o ganeuon hardd sy’n dweud wrthym am aros, gwrando, gorfoleddu, dod at ein gilydd, ac yna gweithredu. Mae hyn yn ddyletswydd arnom, er mwyn ni ein hunain, er mwyn ein gilydd, ac er mwyn ein byd hardd ni.

LAWR YN Y DDINAS FAWR

Cân sydd o dan ddylanwad cyfartal Georgie Fame, Sergio Mendes a Kassin (ei chynhyrchydd), mae Lawr Yn Y Ddinas fawr yn ymwneud â’r oriau hynny o gwmpas y wawr rhwng amser taflu allan o’r clybiau a phan fydd pobl yn cychwyn i’r gwaith. Amser o limbo, ble bynnag yr ydych yn y byd. Ond amser gwych i weld dinas, pan na fydd neb o gwmpas. Cyn belled â’ch bod chi’n gallu aros yn effro!

Ar gael i’w ffridio nawr.

AR ÔL Y GLAW

Mae’r gân Ar Ôl Y Glaw o’r albwm newydd  ‘Mas’ gan Carwyn Ellis & Rio 18, yn “adwaith i’r casineb cythryblus ofnadwy a welsom yn America yn gynharach eleni, gyda blas cyfnod y clo arno”, medd Carwyn Ellis. Mae’n sôn am y gobaith y mae’n rhaid inni lynu ato ar ôl digwyddiadau mor ofidus, ac ysbrydolwyd naws y gân gan glip ar YouTube o Donovan a Sergio Mendes yn cyd-ganu cân Donovan ‘There is A Mountain’. ‘Cyd-ysgrifennwyd ‘Ar Ôl Y Glaw’ gan Marged Rhys (aelod o’r triawd gwerin, Plu). Anfonodd Carwyn y demo a’r corws gwreiddiol ati, ac fe orffennodd hi’r gwaith mewn fflach, medd Carwyn gan chwerthin, “yn wahanol i fi!”.

Mae Ar Ôl Y Glaw ar gael i’w ffrydio nawr.